Croeso i Wefan Cyngor Cymuned Llandysul
Mae Cyngor Cymuned Llandysul, yn yr un modd â phob Cyngor Tref a Chymuned arall yng Nghymru, yn gwasanaethu'r gymuned leol ac yn gweithio i wella ansawdd bywyd yn ei ardal leol. Mae'n cynrychioli etholwyr fel eu haen lywodraeth ac atebolrwydd ddemocrataidd gyntaf, gan wneud hynny trwy arfer amrediad o ddyletswyddau a phwerau statudol.
Mae Cyngor Cymuned Llandysul yn cynnwys pedair ward etholiadol, sef Ward Capel Dewi, Ward Pont-siân, Ward Tre-groes a Ward Drefol Llandysul, ac mae'n cynnwys 12 o gynghorwyr sy'n cynrychioli 2700 o breswylwyr (Cyfrifiad 2011). Bob blwyddyn, etholir pen y Cyngor, sef y Cadeirydd, o blith y Cynghorwyr sy'n gwasanaethu. Mae'r cyngor yn cyflogi Clerc rhan-amser.

Gwasanaethau'r Cyngor Cymuned
Mae Cyngor Cymuned Llandysul yn ymgynghorai ar gyfer ceisiadau cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Gâr.
Bathodyn y Cyngor

Caiff y cefndir Glas Brenhinol ei gymryd o ganol cadwyn y Cadeirydd, ac mae'n debygol ei fod yn cynrychioli afon Teifi.
Mae'r symbolau ar y bathodyn fel a ganlyn:
Llinellau tonnog – Afon Teifi;
Pennau ŷd - ffermio ac amaethyddiaeth yn yr ardal;
Y pysgod - Pysgota, gan bod y Teifi yn enwog am eogiaid, sewiniaid a brithyllod;
Yr ysgol a'r llyfr (dysg) - maent yn cynrychioli Ysgol Dyffryn Teifi;
Y Ddraig Goch - Cymru
Newyddion
Hysbysiad o Archwiliad
Hysbysiad o ddyddiad penodi ar gyfer arfer hawliau etholwyr .
Cyngor Cymuned Llandysul
Diwedd y flwyddyn ariannol ar 31 Mawrth 2022
Swyddi Cynghorwyr Cymuned
Hysbysir drwy hyn fod yna 1 sedd wag achlysurol ar gyfer swydd Cynghorydd ar Gyngor Cymuned Llandysul Ward Trefol a 2 Ward Capel Dewi...
Goleuadau Nadolig newydd
Hoffai Cynghorwyr Cymuned Llandysul ddiolch i'r gymuned am eu holl waith caled a'u cefnogaeth wrth godi arian ar gyfer y goleuadau Nadolig newydd...