Cyfyngiadau Gwastraff Gweddilliol Cyngor Sir Ceredigion
Cyfyngiad ar wastraff ar ymyl y palmant
O 23 Mehefin 2025, bydd eiddo domestig yng Ngheredigion yn cael eu cyfyngu i un sach wastraff gweddilliol yr wythnos, sy’n cyfateb i dri sach fesul cylch casglu 3 wythnos. Mae hyn yn ychwanegol at wastraff CHA o gwsmeriaid cofrestredig CHA, lle mae’r gwastraff yn bodloni meini prawf CHA, ac yn cael ei gyflwyno’n gywir i’w gasglu mewn bagiau CHA.
Rwy'n atodi poster a byddwn yn ddiolchgar pe gallech drefnu i'r rhain gael eu gosod mewn siopau lleol, hysbysfyrddau pentref, mannau addoli ac ati er mwyn cyrraedd cymaint o drigolion â phosibl.
Am fwy o wybodaeth am y cyfyngiad a cwestiynau a ofynnir yn aml , ewch i'n gwefan: Gwastraff Gweddilliol (Gwastraff Nad Oes - Cyngor Sir Ceredigion
Newidiadau i Safleoedd Gwastraff Cartref
Er mwyn atal trigolion rhag mynd â'u bagiau gwastraff gweddilliol i Safle Gwastraff Cartref er mwyn osgoi'r cyfyngiad, bydd arferion "dim gwastraff heb ei ddidoli" yn cael eu rhoi ar waith ar Safleoedd Gwastraff Cartref y sir.
Nid yw hwn yn waharddiad llwyr ar wastraff nad oes modd ei ailgylchu, ac ar hyn o bryd nid oes terfyn ar faint o wastraff nad oes modd ei ailgylchu y gellir ei gymryd i Safle Gwastraff Cartref, yn amodol ar yr amodau canlynol:
• Mae’r gwastraff yn dod o eiddo yng Ngheredigion (bydd angen prawf o gyfeiriad)
• Mae’r gwastraff yn dod o eiddo domestig. Mae hyn yn eithrio unrhyw wastraff sy’n deillio o weithgarwch masnachol fel llety gwyliau
• Nid yw'r cynhwysydd gwastraff nad yw'n cael ei ailgylchu yn cynnwys unrhyw beth y gellid ei ailgylchu ar ochr y palmant, neu ar y Safle Gwastraff Cartref
Am ragor o wybodaeth ewch i'n gwefan: Safle Gwastraff Cartref a Banciau - Cyngor Sir Ceredigion

News
05/03/2026
Tender for Brush Cutting 2026
05/03/2026
Tender for Maintenance work 2026
24/06/2025





